top of page
Colorful Pens

Gwybodaeth

Dyma gyfle i fod yn rhan o brosiect unigryw i ddatblygu adnoddau arloesol a newydd i fesur llythrennedd yn Gymraeg

Y prosiect

Nod yr ymchwil yw creu asesiad diagnostig safonedig i adnabod anawsterau llythrennedd cyfrwng Cymraeg ymhlith disgyblion 11.0-16 oed. 

Mae'r 8 prawf eisoes wedi’u treialu gan ddisgyblion i weld os ydynt yn profi’r hyn maent i fod. Bwriad y prosiect hwn yw safoni'r gyfres o brofion yn genedlaethol i ffurfio asesiad cynhwysfawr o lythrennedd unigolion i ddarganfod anawsterau llythrennedd/dyslecsia.

Y profion

Mae 8 prawf yn yr asesiad, sef:

  • sillafu geiriau unigol (A/B)

  • cyflymdra ysgrifennu a dadansoddiad sillafu Cymraeg

  • darllen geiriau unigol (A/B)

  • cyflymdra darllen (2 destun)

  • adnabod cyflythreniad

  • adnabod odl

  • seingoll

  • enwi cyflym (digidau/ llythrennau)

​

Yr ymrwymiad

Fe fydd gofyn i bob ysgol sydd yn rhan o'r prosiect safoni:

  • creu sampl sydd yn cynnwys 6 o ddisgyblion o bob blwyddyn ysgol 7-11 

  • Nodi cydsyniad gwybodus yr ysgol i gymryd rhan yn y prosiect

  • casglu cydsyniad gwybodus gan deuluoedd y disgyblion

  • casglu cydsyniad gwybodus gan y disgyblion a dewiswyd

  • Rhyddhau aelod staff i weinyddu'r profion i bob disgybl a dewiswyd

  • Lawrlwytho'r dogfennau prawf a'u hargraffu (du a gwyn)

  • Marcio'r profion wrth fynd trwyddynt.

  • Sganio'r dogfennau prawf wedi eu cwblhau a'u danfon yn ôl at yr ymchwilwyr.

Y gefnogaeth

Mae tal o £500 i bob ysgol sydd yn cwblhau'r cam safoni, fel bod aelod staff yn gallu cael ei ryddhau am gyfnod i wneud y gwaith.

Fe fydd pob adnodd ar gael ar y wefan fel bod mynediad hawdd gennych atynt.

Byddwn yn darparu hyfforddiant i chi a mae fideos hyfforddi ar gael ar y dudalen hyfforddiant fel bod mynediad cyson gennych at y wybodaeth. Gallech ddefnyddio'r botwm "sgwrsio" sydd ar waelod pob tudalen wefan i gysylltu gyda Marjorie.

​

Barod i fynd?

Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys pob dim sydd angen er mwyn cynnal y treialon safoni gyda'ch disgyblion. Dechreuwch trwy greu sampl yn ôl y canllaw ar y dudalen Samplu.

bottom of page