

Dolenni Cydsynio Staff Ysgol
Os gwelwch yn dda darllenwch y wybodaeth ac yna llenwch y ffurflen i ddangos cydsyniad.
Mae'n hanfodol fod aelod o'r Uwch-dîm yn llenwi'r ffurflen a hefyd yr athro a fydd yn gweinyddu'r profion.
Cadarnhaf fy mod wedi darllen a deall y daflen wybodaeth ar gyfer yr astudiaeth hon. Rwyf wedi cael cyfle i ystyried y wybodaeth, gofyn cwestiynau ac wedi cael atebion boddhaol i’r rhain.
Rwy’ wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau a gallaf ofyn rhagor o gwestiynau am y prosiect ar unrhyw adeg. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi gymryd rhan a gallaf dynnu’n ôl o’r prosiect ar unrhyw adeg.
Deallaf, os byddaf yn tynnu’n ôl o’r prosiect naill ai cyn neu yn ystod y cyfnod casglu data, y bydd unrhyw ddata a gesglir am y disgyblion hyd at y pwynt hwnnw’n cael ei dynnu’n ôl ac ni chaiff ei ddefnyddio yn y cyfnod dadansoddi data, na’i gynnwys mewn unrhyw gyhoeddiad o ganlyniadau’r prosiect.
Nodaf mai’r amserlen ddangosol ar gyfer cam casglu data’r prosiect hwn yw 3 mis o fis Hydref 2025.
Nodaf y bydd y gwaith dadansoddi data yn dechrau tua wythnos ar ôl i'r gwaith casglu data ddod i ben ac y bydd yn para tua 3 mis.
Deallaf ymhellach, ar ôl diwedd y cyfnod dadansoddi data, y bydd angen i'r brifysgol gadw data nad yw'n bersonol at ddibenion dilysu am gyfanswm o ddeng mlynedd. Ar ôl hyn 10 mlynedd bydd y data yn cael ei ddileu.
Deallaf fod GDPR yn datgan bod astudiaethau ymchwil wedi’u heithrio o’r hawl i gael eich anghofio lle mae hyn “yn debygol o wneud yn amhosibl neu amharu’n ddifrifol ar gyflawniad yr amcanion” ac y bydd unrhyw gais a wnaf i ddwyn fy hawl i gael fy anghofio yn cael ei ystyried gan y Brifysgol gyda hyn mewn golwg. Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i gymryd pob cam posibl i gydymffurfio â’r cais heb amharu ar yr ymchwil.
Rwy’n cytuno i gymryd rhan / i’r ysgol gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Rhif Cyfeirnod: CSESP -Sta-55
Teitl y Prosiect: Creu asesiad diagnostig o lythrennedd yn y Gymraeg i ddysgwyr 11.0-16.11 oed